
Policy and Advocacy Manager Wales

Are you looking for your next policy challenge and would welcome the opportunity to shape the future of end of life care in Wales with the UK’s leading hospice care charity?
Hospice UK is looking for an experienced and creative Policy & Advocacy Manager to help drive its strategic aims in Wales, at a time when death, dying and bereavement is high on the public and political agenda.
---------------------------------------
Ydych chi’n chwilio am eich her nesaf ym maes polisi? A fyddech chi’n croesawu cyfle i siapio dyfodol gofal diwedd oes yng Nghymru gyda phrif elusen gofal hosbis Prydain?
Mae Hospice UK yn chwilio am Reolwr Polisi ac Eiriolaeth profiadol a chreadigol i helpu i yrru ei nodau strategol yng Nghymru, ar adeg pan fo marwolaeth, marw a phrofedigaeth yn uchel ar yr agenda gyhoeddus a gwleidyddol.
Details / Manylion
Closing Date: Midday on 29 November 2021
Interview Date: Week commencing 6 December
Salary: £33,067 (pro rata of £41,344) per annum + excellent benefits
Contract: Permanent, part-time (0.8 FTE)
---------------------------------------
Canol dydd: dydd Llun 29 Tachwedd 2021 yw’r dyddiad cau
Dyddiad cyfweld: Ystod yr wythnos yn dechrau 6 Rhagfyr.
Cyflog: £33,067 (pro rata o £41,344) y flwyddyn a buddiannau ardderchog
Tymor: Parhaol, (0.8 Cyfwerth ag Amser Llawn)
The role / Y swydd
Reporting to the Head of Policy, Advocacy and Research, the Policy and Advocacy Manager (Wales) will identify routes to positive change, influence decision makers, engage with people with lived experience, develop policy positions and build partnerships in the interests of people at the end of life and their families and carers, alongside end of life care services, as we work towards our vision of hospice care for every person in need.
This is a key role in the organisation to help us drive our vision and play a leading role the strategic direction of hospice and end of life care in Wales. The position is part-time (0.8 FTE) on a permanent contract.
---------------------------------------
Gan adrodd i’r Pennaeth Polisi, Eiriolaeth ac Ymchwil, bydd Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth (Cymru) yn nodi llwybrau tuag at newid cadarnhaol, yn dylanwadu ar y bobl sy’n gwneud penderfyniadau, yn ymgysylltu â phobl â phrofiadau byw, yn datblygu safbwyntiau polisi, ac yn meithrin partneriaethau er budd pobl ar ddiwedd eu hoes a’u teuluoedd a’u gofalwyr, ochr yn ochr â gwasanaethau gofal diwedd oes, wrth i ni weithio tuag at ein gweledigaeth o ofal hosbis i bawb sydd mewn angen.
Mae hon yn rôl allweddol yn y sefydliad i’n helpu ni i yrru ein gweledigaeth a chwarae rôl arweiniol yng nghyfeiriad strategol gofal hosbis a diwedd oes yng Nghymru. Mae’r swydd yn un rhan-amser (0.8 Cyfwerth ag Amser Llawn) ar gontract parhaol.
The candidate / Yr ymgeisydd
We are seeking a confident self-starter who is able to manage the complexity of continuing to develop and deliver our policy presence in Wales and creating opportunities to achieve our policy and advocacy ambitions. The right candidate will be a self-motivated, resilient, creative and an experienced policy and advocacy professional.
You will have solid experience in policy, with a track record of identifying and seizing opportunities as well as contributing to and achieving positive change. You will be strategic, dynamic and bursting with ideas, as well as having excellent judgement and a well-honed ability to deal sensitively with a range of stakeholders.
More information about the role can be found in the job description and person specification.
---------------------------------------
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn hunangymhellol hyderus sy’n gallu rheoli cymhlethdod y gwaith o barhau i ddatblygu a chyflwyno ein presenoldeb polisi yng Nghymru, a chreu cyfleoedd i gyflawni ein dyheadau polisi ac eiriolaeth. Bydd yr ymgeisydd cywir yn weithiwr polisi ac eiriolaeth proffesiynol sy’n cymell ei hunan, yn wydn, yn greadigol ac yn brofiadol.
Bydd gennych brofiad cadarn ym maes polisi, gyda hanes o nodi cyfleoedd a bachu arnynt, ynghyd â chyflawni a chyfrannu at newid cadarnhaol. Byddwch yn strategol, yn ddeinamig ac yn llawn syniadau, a bydd gennych grebwyll ardderchog a chraffter i ymdrin yn sensitif ag ystod o randdeiliaid.
Mae rhagor o wybodaeth am y swydd ar gael yn y disgrifiad swydd a manyldeb yr unigolyn.
About us / Amdanon ni
Hospice UK is the national charity working for those experiencing dying, death and bereavement. We work for the benefit of people affected by death and dying, collaborating with our hospice members and other partners who work in end of life care.
Hospice care supports approximately 225,000 people with terminal and life-limiting conditions in the UK each year, with some 12,700 of those in Wales. Hospices also have an important role in supporting families, especially in providing bereavement support.
Our strategic goals for 2017 - 2022 are to:
- Extend our reach and enable hospice quality care to be delivered in any setting
- Tackle inequality and widen access to hospice care
- Work with communities to build capacity and resilience to care for those at the end of life
- Empower a strong, dynamic and responsive hospice sector
---------------------------------------
Hospice UK yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio ar gyfer y bobl hynny sy'n profi marw, marwolaeth a phrofedigaeth. Rydyn ni'n gweithio er budd y bobl sy'n profi effaith marw a marwolaeth, gan gydweithio gyda'n hosbis-aelodau a phartneriaid eraill sy'n gweithio ym maes gofal diwedd oes.
Mae gofal hosbis yn cefnogi oddeutu 225,000 o bobl â chyflyrau angheuol ac sy’n cyfyngu ar eu bywydau yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn, gyda thua 12,700 o’r rheini yng Nghymru. Mae gan hosbisau rôl bwysig o ran cefnogi teuluoedd hefyd, yn enwedig wrth ddarparu cymorth profedigaeth.
Ein nodau strategol ar gyfer 2017 - 2022 yw:
- Ymestyn ein cyrhaeddiad a galluogi gofal o ansawdd hosbis i gael ei ddarparu mewn unrhyw leoliad
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac ehangu mynediad at ofal hosbis
- Gweithio gyda chymunedau i gynyddu gallu a gwydnwch i ofalu am bobl ar ddiwedd eu hoes
- Grymuso sector hosbis cryf, deinamig ac ymatebol
Location / Lleoliad
There is a strong preference for being based in Wales. Depending on location the post holder may be based within a hospice office combined with a flexible approach to working from home.
The head office of Hospice UK is in London. The post will have full web-based connection to Hospice UK, regular access to the line manager and colleagues through email, face to face when Covid-19 restrictions ease, internet based video calls and telephone.
---------------------------------------
Mae dymuniad cryf i ddeiliad y swydd fod yng Nghymru. Yn ddibynnol ar y lleoliad, mae’n bosib y bydd deiliad y swydd mewn swyddfa hosbis wedi’i gyfuno ag ymagwedd hyblyg tuag at weithio o gartref.
Mae prif swyddfa Hospice UK yn Llundain. Bydd gan y swydd gysylltiad llawn drwy’r rhyngrwyd â Hospice UK, mynediad rheolaidd at y rheolwr llinell a chydweithwyr drwy e-bost, wyneb yn wyneb ar ôl i gyfyngiadau covid-19 lacio, galwadau fideo ar y rhyngrwyd a’r ffôn.
How to apply / Sut i ymgeisio
If you would like to apply for the role, please send us your CV along with our completed supporting statement form and equalities monitoring form to recruitment@hospiceuk.org by the closing date.
The closing date is midday Monday 29 November 2021
Interviews will be held week commencing Monday 6th December.
---------------------------------------
Os hoffech wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV atom ynghyd â ffurflen datganiad ategol a ffurflen monitro cydraddoldebau wedi’u llenwi at recruitment@hospiceuk.org erbyn y dyddiad cau.
Canol dydd, dydd Llun 29 Tachwedd 2021 yw’r dyddiad cau.
Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 6 Rhagfyr.
View the candidate pack for this role
Gweld y pecyn ymgeisydd ar gyfer y rôl hon.