Man cychwyn yw’r adroddiad byr hwn i ddeall ble yr ydym ni eisoes fel symudiad hosbis yng Nghymru, a hefyd ble mae angen inni fynd i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.

Lawrlwythwch

Lawrlwythwch Gofal hosbis yng Nghymru 2017.

This page takes around 5 munud to read.

Am y cyhoeddiad hwn

Text

Mae hosbisau yng Nghymru yn gwasanaethu ac yn dibynnu ar eu cymunedau lleol. Bydd pob hosbis annibynnol yng Nghymru wedi’i siapio gan y bobl a welwn. 

Rydym wrth drobwynt ym myd iechyd a gofal yng Nghymru; mae deddfwriaeth newydd blaengar ar lesiant a newidiadau disgwyliedig ein demograffeg yn ei gwneud hi’n amserol bod y symudiad hosbis yng Nghymru yn cymryd stoc. Man cychwyn yw’r adroddiad byr hwn i ddeall ble yr ydym ni eisoes fel symudiad hosbis yng Nghymru, a hefyd ble mae angen inni fynd i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol. 

Mae hosbisau’n arloesi, yn datblygu gwasanaethau newydd ac yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol er budd y bobl hynny sydd angen gofal lliniarol a diwedd oes arbenigol. Mae’n iawn ein bod ni’n dathlu hyn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon - mae’n rhaid i ni barhau i ymdrechu i ddeall y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn well, addasu ein gwasanaethau ac ehangu ein darpariaeth er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gallu elwa o ofal lliniarol arbenigol yn gallu cael mynediad ato. 

Trystan Pritchard, Cadeirydd Hosbisau Cymru a Phrif 

Weithredwr Hosbis Dewi Sant

Diolchiadau

Rydym yn ddiolchgar i hosbisau Cymru sy’n aelodau o Hospice UK am eu cymorth ac am ddarparu’r data sy’n sail i’r adroddiad hwn:

  • Ymddiriedolaeth Bracken
  • Hosbis y Ddinas
  • Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn
  • Hosbis y Cymoedd
  • Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro
  • Hosbis Tŷ Eos
  • Sefydliad Paul Sartori
  • Hosbis Hafren
  • Tŷ Shalom
  • Hosbis Dewi Sant
  • Gofal Hosbis Dewi Sant
  • Hosbis Cyndeyrn Sant
  • Hosbisau Plant Tŷ Gobaith
  • Tŷ Hafan
  • Ymddiriedolaeth Tŷ Olwen

Ysgrifennwyd gan Catrin Edwards, Kathleen Caper a Eilidh Macdonald o Hospice UK.

Cyhoeddwyd gan Hospice UK ym mis Hydref 2017.